Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 5:1-17

Amos 5:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, dŷ Israel: “Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio, ac ni chyfyd eto; gadawyd hi ar lawr, heb neb i'w chodi.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth dŷ Israel: “Y ddinas a anfonodd fil a gaiff gant yn ôl; a'r un a anfonodd gant a gaiff ddeg yn ôl.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel: “Ceisiwch fi, a byddwch fyw; peidiwch â cheisio Bethel, nac ymweld â Gilgal, na theithio i Beerseba; oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal, ac ni bydd Bethel yn ddim.” Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw— rhag iddo ruthro fel tân drwy dŷ Joseff a'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel— chwi sy'n troi barn yn wermod, ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr. Ef a wnaeth Pleiades ac Orion; ef sy'n troi tywyllwch yn fore, ac yn tywyllu'r dydd yn nos. Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr, ac yn eu tywallt ar wyneb y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw. Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf, a daw distryw ar y gaer. Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth, ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest. Felly, am ichwi sathru'r tlawd, a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith— er ichwi godi tai o gerrig nadd, ni chewch fyw ynddynt; er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd, ni chewch yfed eu gwin. Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau ac mor fawr yw'ch pechodau— chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr, ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth. Felly tawed y doeth ar y fath amser, canys amser drwg ydyw. Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni, fel y byddwch fyw ac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi, fel yr ydych yn honni ei fod. Casewch ddrygioni, carwch ddaioni, gofalwch am farn yn y porth; efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, wrth weddill Joseff. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd: “Ym mhob sgwâr fe fydd wylo, ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’ Galwant ar y llafurwr i alaru ac ar y galarwyr i gwynfan. Bydd wylofain ym mhob gwinllan, oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 5:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch arna i’n galaru! Dw i’n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel: “Mae Israel fel merch ifanc wedi’i tharo i lawr, mae hi’n gorwedd ar bridd ei gwlad a does neb i’w chodi ar ei thraed.” Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel: “Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre anfonodd fil allan i’r fyddin, a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre anfonodd gant i’r fyddin.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel: “Trowch yn ôl ata i, a chewch fyw! Peidiwch troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel, mynd i ymweld â chysegr Gilgal na chroesi’r ffin a mynd i lawr i Beersheba. Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo, a fydd Bethel ddim mwy na rhith!” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, a chewch fyw! Os na wnewch chi bydd e’n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân ac yn llosgi Bethel yn ulw; a fydd neb yn gallu diffodd y tân. Druan ohonoch chi, sy’n troi cyfiawnder yn beth chwerw, ac yn gwrthod gwneud beth sy’n iawn yn y tir! Duw ydy’r un wnaeth y sêr – Pleiades ac Orïon. Fe sy’n troi’r tywyllwch yn fore, ac yn troi’r dydd yn nos dywyll. Mae e’n cymryd dŵr o’r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir –yr ARGLWYDD ydy ei enw e! Mae’n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel, nes bod caerau amddiffynnol yn troi’n adfeilion! Dych chi’n casáu’r un sy’n herio anghyfiawnder yn y llys; ac yn ffieiddio unrhyw un sy’n dweud y gwir. Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu’ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw. Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu’n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys! Byddai unrhyw un call yn cadw’n dawel, achos mae’n amser drwg. Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg, a chewch fyw! Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, gyda chi go iawn (fel dych chi’n meddwl ei fod e nawr!) Casewch ddrwg a charu’r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff. Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi’n eu gwneud, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw hollbwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy’n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd galarwyr proffesiynol yno’n udo llafarganu. Bydd pobl yn wylo’n uchel, hyd yn oed yn y gwinllannoedd, achos dw i’n dod i’ch cosbi chi.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Amos 5:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel. Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd. Canys y modd hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel; Ceisiwch fi, a byw fyddwch. Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim. Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr, Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw: Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa. Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.