Gwrandwch arna i’n galaru! Dw i’n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel:
“Mae Israel fel merch ifanc
wedi’i tharo i lawr,
mae hi’n gorwedd ar bridd ei gwlad
a does neb i’w chodi ar ei thraed.”
Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel:
“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre
anfonodd fil allan i’r fyddin,
a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre
anfonodd gant i’r fyddin.”
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:
“Trowch yn ôl ata i, a chewch fyw!
Peidiwch troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,
mynd i ymweld â chysegr Gilgal
na chroesi’r ffin a mynd i lawr i Beersheba.
Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,
a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”
Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, a chewch fyw!
Os na wnewch chi bydd e’n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân
ac yn llosgi Bethel yn ulw;
a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
Druan ohonoch chi, sy’n troi cyfiawnder yn beth chwerw,
ac yn gwrthod gwneud beth sy’n iawn yn y tir!
Duw ydy’r un wnaeth y sêr –
Pleiades ac Orïon.
Fe sy’n troi’r tywyllwch yn fore,
ac yn troi’r dydd yn nos dywyll.
Mae e’n cymryd dŵr o’r môr
ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir
–yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
Mae’n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,
nes bod caerau amddiffynnol yn troi’n adfeilion!
Dych chi’n casáu’r un sy’n herio anghyfiawnder yn y llys;
ac yn ffieiddio unrhyw un sy’n dweud y gwir.
Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm
a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:
Er eich bod chi wedi adeiladu’ch tai crand o gerrig nadd,
gewch chi ddim byw ynddyn nhw.
Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,
gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,
ac wedi pechu’n ddiddiwedd
drwy gam-drin pobl onest,
a derbyn breib i wrthod cyfiawnder
i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
Byddai unrhyw un call yn cadw’n dawel,
achos mae’n amser drwg.
Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,
a chewch fyw!
Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus,
gyda chi go iawn
(fel dych chi’n meddwl ei fod e nawr!)
Casewch ddrwg a charu’r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff. Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi’n eu gwneud, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw hollbwerus:
“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,
a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’
Bydd y rhai tlawd sy’n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,
a bydd galarwyr proffesiynol yno’n udo llafarganu.
Bydd pobl yn wylo’n uchel,
hyd yn oed yn y gwinllannoedd,
achos dw i’n dod i’ch cosbi chi.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.