Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 4:1-13

Amos 4:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywch y gair hwn, fuchod Basan, sydd ym mynydd Samaria, sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus, sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”: Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd, “Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau, a'r olaf ohonoch â bachau pysgota. Ac ewch allan trwy'r bylchau, pob un ohonoch ar ei chyfer, ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD. “Dewch i Fethel a throseddu, i Gilgal a phechu fwyfwy; dygwch eich aberthau bob bore a'ch degymau bob tridiau; offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW. “Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara ym mhob man; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf; rhoddais law ar un ddinas, a'i atal oddi ar un arall; glawiodd ar un cae, a gwywodd y cae na chafodd law; crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas i yfed dŵr, ond heb gael digon; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Trewais chwi â malltod a llwydni; difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd; bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft; lleddais eich llanciau â'r cleddyf, a chaethgludo eich meirch; gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Hyn felly a wnaf i ti, Israel. Gan fy mod am wneud hyn i ti, bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.” Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt, yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw, yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch, ac yn cerdded uchelderau'r ddaear— yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.

Amos 4:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch ar hyn, chi wartheg Bashan! Ie, chi wragedd Samaria dw i’n ei olygu! Chi sy’n twyllo pobl dlawd, ac yn gwneud i’r gwan ddioddef. Chi sy’n dweud wrth eich gwŷr, “Tyrd â diod i ni gael parti!” Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn addo ar lw, mor sicr â’i fod yn sanctaidd: “Gwyliwch chi! Mae’r amser yn dod pan fyddan nhw’n eich arwain chi i ffwrdd â bachau – pob copa walltog gyda bachau pysgota. Byddwch chi’n cael eich llusgo allan o’r ddinas drwy’r tyllau yn y wal gyferbyn a’ch tai – Byddwch chi’n cael eich taflu ar y domen sbwriel!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Dewch i’r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i! Dewch i’r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth! Dewch i gyflwyno eich aberthau yn y bore a thalu’r degymau y diwrnod wedyn. Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo! Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrymau gwirfoddol! Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.” –fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi; doedd gynnoch chi ddim i’w fwyta yn unman. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Fi rwystrodd hi rhag glawio pan oedd y cnydau angen glaw i dyfu. Rôn i’n rhoi glaw i un dre a dim glaw i dre arall. Roedd hi’n glawio ar un cae, ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwbl ac roedd y cnwd yn gwywo. Roedd pobl dwy neu dair o drefi yn llusgo’u ffordd i dre arall, yn y gobaith o gael dŵr i’w yfed, ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Dyma fi’n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau. Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a’ch gwinllannoedd, eich coed ffigys a’ch coed olewydd, eu dinistrio’n llwyr gan blâu o locustiaid. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Dyma fi’n anfon afiechydon i’ch poenydio, fel y plâu yn yr Aifft. Dyma fi’n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel, a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch. Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Dyma fi’n dinistrio rhai ohonoch chi fel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra. Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgi ar ôl cael ei gipio o’r tân. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Felly, dw i’n mynd i dy gosbi di, Israel. Dyna dw i’n mynd i’w wneud, felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!” Edrych! Duw wnaeth y mynyddoedd, a chreu y gwynt. – y Duw sydd wedi dweud wrth bobl beth sydd ganddo eisiau – Fe sy’n troi’r wawr yn dywyllwch, ac yn rheoli popeth ar y ddaear –yr ARGLWYDD ydy ei enw e, y Duw hollbwerus!

Amos 4:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn. Tyngodd yr Arglwydd DDUW i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota. A chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer; a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr ARGLWYDD. Deuwch i Bethel, a throseddwch; i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau; Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW. A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a’r rhan ni chafodd law a wywodd. Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd DUW Sodom a Gomorra; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th DDUW. Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y bore yn dywyllwch, ac a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yw ei enw.