Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 4:1-13

Amos 4:1-13 BCND

Clywch y gair hwn, fuchod Basan, sydd ym mynydd Samaria, sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus, sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”: Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd, “Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau, a'r olaf ohonoch â bachau pysgota. Ac ewch allan trwy'r bylchau, pob un ohonoch ar ei chyfer, ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD. “Dewch i Fethel a throseddu, i Gilgal a phechu fwyfwy; dygwch eich aberthau bob bore a'ch degymau bob tridiau; offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW. “Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara ym mhob man; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf; rhoddais law ar un ddinas, a'i atal oddi ar un arall; glawiodd ar un cae, a gwywodd y cae na chafodd law; crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas i yfed dŵr, ond heb gael digon; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Trewais chwi â malltod a llwydni; difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd; bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft; lleddais eich llanciau â'r cleddyf, a chaethgludo eich meirch; gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân; er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Hyn felly a wnaf i ti, Israel. Gan fy mod am wneud hyn i ti, bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.” Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt, yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw, yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch, ac yn cerdded uchelderau'r ddaear— yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.