Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 3:1-15

Amos 3:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft: “Chwi'n unig a adwaenais o holl deuluoedd y ddaear; am hynny, fe'ch cosbaf chwi am eich holl gamweddau.” A gerdda dau gyda'i gilydd heb wneud cytundeb? A rua llew yn y goedwig pan fydd heb ysglyfaeth? A waedda'r llew ifanc o'i ffau pan fydd heb ddal dim? A syrth aderyn ar y ddaear os nad oes magl iddo? A neidia'r groglath oddi ar y ddaear os nad yw wedi dal dim? A genir utgorn yn y ddinas heb i'r bobl ddychryn? A ddaw trychineb i'r ddinas heb i'r ARGLWYDD ei anfon? Ni wna'r Arglwydd DDUW ddim heb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi. Rhuodd y llew; pwy nid ofna? Llefarodd yr Arglwydd DDUW; pwy all beidio â phroffwydo? Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria, ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft; dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria, ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn, ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.” “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD. “Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.” Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Daw gelyn i amgylchu'r wlad, a bwrw i lawr dy amddiffynfeydd ac ysbeilio dy geyrydd.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.” “Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,” medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd. “Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau, fe gosbaf allorau Bethel; torrir cyrn yr allor, a syrthiant i'r llawr. Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf; derfydd am y tai ifori, a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 3:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft. “O blith holl bobloedd y ddaear, chi ydy’r rhai wnes i ddewis – a dyna pam mae’n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif am yr holl ddrwg dych chi wedi’i wneud.” Ydy dau berson yn gallu teithio gyda’i gilydd heb fod wedi trefnu i gyfarfod? Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth? Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd os nad oes abwyd yn y trap? Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn heb fod rhywbeth wedi’i ddal ynddo? Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre wrth glywed y corn hwrdd yn seinio fod ymosodiad? Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i’r ARGLWYDD adael i’r peth ddigwydd? Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i’w weision y proffwydi. Pan mae’r llew yn rhuo, pwy sydd ddim yn ofni? Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad, felly pwy sy’n mynd i wrthod proffwydo? Cyhoedda hyn i’r rhai sy’n byw yn y plastai yn Ashdod ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft! Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas, a’r gormes sy’n digwydd yno. Allan nhw ddim gwneud beth sy’n iawn!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Yn eu plastai maen nhw’n storio trysorau sydd wedi’u dwyn drwy drais.” Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd gelyn yn amgylchynu’r wlad! Bydd yn rhwygo popeth oddi arni ac yn ei gadael yn noeth. Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio’n llwyr!” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‘achub’ unrhyw beth o safn y llew – dwy goes, neu ddarn o’r glust – dyna’r math o ‘achub’ fydd ar bobl Israel sy’n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!” “Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob” –fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus. “Pan fydda i’n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i’n dinistrio’r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli’r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr. Bydda i’n dymchwel eu tai, a’u tai haf nhw hefyd. Bydd y tai oedd wedi’u haddurno ag ifori yn adfeilion. Bydd y plastai yn cael eu chwalu’n llwyr!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Amos 3:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r ARGLWYDD ei wneuthur? Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, pwy ni phroffwyda? Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi. Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr ARGLWYDD: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle. Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD DDUW, DUW y lluoedd, Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr ARGLWYDD.