Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 3:1-15

Amos 3:1-15 BCND

Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft: “Chwi'n unig a adwaenais o holl deuluoedd y ddaear; am hynny, fe'ch cosbaf chwi am eich holl gamweddau.” A gerdda dau gyda'i gilydd heb wneud cytundeb? A rua llew yn y goedwig pan fydd heb ysglyfaeth? A waedda'r llew ifanc o'i ffau pan fydd heb ddal dim? A syrth aderyn ar y ddaear os nad oes magl iddo? A neidia'r groglath oddi ar y ddaear os nad yw wedi dal dim? A genir utgorn yn y ddinas heb i'r bobl ddychryn? A ddaw trychineb i'r ddinas heb i'r ARGLWYDD ei anfon? Ni wna'r Arglwydd DDUW ddim heb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi. Rhuodd y llew; pwy nid ofna? Llefarodd yr Arglwydd DDUW; pwy all beidio â phroffwydo? Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria, ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft; dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria, ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn, ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.” “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD. “Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.” Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Daw gelyn i amgylchu'r wlad, a bwrw i lawr dy amddiffynfeydd ac ysbeilio dy geyrydd.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.” “Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,” medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd. “Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau, fe gosbaf allorau Bethel; torrir cyrn yr allor, a syrthiant i'r llawr. Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf; derfydd am y tai ifori, a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.