Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 2:1-16

Amos 2:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Moab, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddo losgi'n galch esgyrn brenin Edom, anfonaf dân ar Moab, ac fe ddifa geyrydd Cerioth. Bydd farw Moab yng nghanol terfysg, yng nghanol banllefau a sŵn utgorn. Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol, a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Jwda, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw ei ddeddfau, a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau a ddilynwyd gan eu hynafiaid, anfonaf dân ar Jwda, ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Israel, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt werthu'r cyfiawn am arian a'r anghenog am bâr o sandalau; am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig; am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances, fel bod halogi ar fy enw sanctaidd; am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystl yn ymyl pob allor; am eu bod yn yfed gwin y ddirwy yn nhŷ eu Duw. “Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau, a'i uchder fel uchder cedrwydd a'i gryfder fel y derw; dinistriais ei ffrwyth oddi arno a'i wreiddiau oddi tano. Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft, a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. Codais rai o'ch meibion yn broffwydi, a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid. Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD. “Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin, a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’ “Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr, fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu. Derfydd am ddihangfa i'r cyflym, ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder, ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun; ni saif y saethwr bwa; ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun, na'r marchog ei waredu ei hun; bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyr yn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 2:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom a’u llosgi nhw’n galch. Felly bydda i’n anfon tân i losgi Moab, a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth. Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro, yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio. Bydda i’n cael gwared â’i brenin hi ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi’u cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw’i orchmynion e. Maen nhw’n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn. Felly bydda i’n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw’n gwerthu’r dieuog am arian, a’r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! – sathru’r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio’r gwan o’r ffordd! Ac mae dyn a’i dad yn cael rhyw gyda’r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth. Maen nhw’n gorwedd wrth ymyl yr allorau ar ddillad sydd wedi’u cadw’n warant am ddyled. Maen nhw’n yfed gwin yn nheml Duw – gwin wedi’i brynu gyda’r dirwyon roeson nhw i bobl! Ac eto, fi wnaeth ddinistrio’r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! – yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi’n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o’u brigau uchaf i’w gwreiddiau! Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft a’ch arwain chi drwy’r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd, ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi! Dewisais rai o’ch plant i fod yn broffwydi a rhai o’ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid. Onid dyna ydy’r gwir, bobl Israel?” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Ond bellach, dych chi’n gwneud i’r Nasareaid yfed gwin, ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau! Felly gwyliwch chi! Bydda i’n eich dal chi’n ôl, fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach am fod llwyth trwm o ŷd arni. Bydd y cyflymaf ohonoch chi’n methu dianc, a’r cryfaf yn teimlo’n hollol wan. Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun, a’r bwasaethwr yn methu dal ei dir. Bydd y rhedwr cyflyma’n methu dianc, a’r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd. Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfau ac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Amos 2:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw. Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr ARGLWYDD Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr ARGLWYDD.