Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 2:1-16

Amos 2:1-16 BCND

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Moab, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddo losgi'n galch esgyrn brenin Edom, anfonaf dân ar Moab, ac fe ddifa geyrydd Cerioth. Bydd farw Moab yng nghanol terfysg, yng nghanol banllefau a sŵn utgorn. Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol, a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Jwda, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw ei ddeddfau, a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau a ddilynwyd gan eu hynafiaid, anfonaf dân ar Jwda, ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Israel, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt werthu'r cyfiawn am arian a'r anghenog am bâr o sandalau; am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig; am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances, fel bod halogi ar fy enw sanctaidd; am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystl yn ymyl pob allor; am eu bod yn yfed gwin y ddirwy yn nhŷ eu Duw. “Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau, a'i uchder fel uchder cedrwydd a'i gryfder fel y derw; dinistriais ei ffrwyth oddi arno a'i wreiddiau oddi tano. Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft, a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. Codais rai o'ch meibion yn broffwydi, a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid. Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD. “Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin, a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’ “Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr, fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu. Derfydd am ddihangfa i'r cyflym, ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder, ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun; ni saif y saethwr bwa; ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun, na'r marchog ei waredu ei hun; bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyr yn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.