Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 1:1-15

Amos 1:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn. Dywedodd, “Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chwyd ei lef o Jerwsalem; galara porfeydd y bugeiliaid, a gwywa pen Carmel.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Damascus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt ddyrnu Gilead â llusg-ddyrnwyr haearn, anfonaf dân ar dŷ Hasael, ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad. Drylliaf farrau pyrth Damascus, a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen, a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden; a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Gasa, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i'w caethiwo yn Edom, anfonaf dân ar fur Gasa, ac fe ddifa ei cheyrydd. Torraf ymaith y trigolion o Asdod, a pherchen y deyrnwialen o Ascalon; trof fy llaw yn erbyn Ecron, a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Tyrus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom, ac anghofio cyfamod brawdol, anfonaf dân ar fur Tyrus, ac fe ddifa ei cheyrydd.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Edom, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddo ymlid ei frawd â chleddyf, a mygu ei drugaredd, a bod ei lid yn rhwygo'n barhaus a'i ddigofaint yn dal am byth, anfonaf dân ar Teman, ac fe ddifa geyrydd Bosra.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau'r Ammoniaid, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead, er mwyn ehangu eu terfynau, cyneuaf dân ar fur Rabba, ac fe ddifa ei cheyrydd â bloedd ar ddydd brwydr, a chorwynt ar ddydd tymestl. A chaethgludir eu brenin, ef a'i swyddogion i'w ganlyn,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 1:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa. Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel. Dyma ddwedodd Amos: “Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion, a’i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod porfa’r anifeiliaid yn gwywo, a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead, a’u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi. Felly bydda i’n llosgi’r palas gododd y Brenin Hasael, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad. Bydda i’n dryllio barrau giatiau Damascus, yn cael gwared â’r un sy’n llywodraethu ar Ddyffryn Afen, a’r un sy’n teyrnasu yn Beth-eden. Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a’u gwerthu nhw i wlad Edom, Felly bydda i’n llosgi waliau Gasa, a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol. Bydda i’n cael gwared â’r un sy’n llywodraethu yn ninas Ashdod a’r un sy’n teyrnasu yn Ashcelon. Bydda i’n ymosod ar ddinas Ecron, nes bydd neb o’r Philistiaid ar ôl yn fyw!” –fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy’n dweud hyn. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi torri’r cytundeb gyda’u brodyr drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a’u gwerthu nhw i wlad Edom, Felly bydda i’n llosgi waliau Tyrus, a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda’r cleddyf a dangos dim trugaredd atyn nhw. Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt heb stopio’r trais o gwbl, dw i’n mynd i anfon tân i losgi Teman, a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw. Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gilead er mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw’u hunain. Felly bydda i’n llosgi waliau Rabba, a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol. Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr, pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm, bydd eu brenin a’i holl swyddogion yn cael eu cymryd yn gaeth gyda’i gilydd.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Amos 1:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr ARGLWYDD.