Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 1

1
1Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.
Geiriau Amos
2Dywedodd,
“Rhua'r ARGLWYDD o Seion,
a chwyd ei lef o Jerwsalem;
galara porfeydd y bugeiliaid,
a gwywa pen Carmel.”
Barn Duw ar y Cenhedloedd Syria
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Damascus,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl#1:3 Hebraeg, ni throf ef yn ôl. Felly hefyd yn adn. 6, 9, 11, 13, a 2:1, 4, 6.;
am iddynt ddyrnu Gilead
â llusg-ddyrnwyr haearn,
4anfonaf dân ar dŷ Hasael,
ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.
5Drylliaf farrau pyrth Damascus,
a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,
a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;
a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.
Philistia
6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Gasa,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan
i'w caethiwo yn Edom,
7anfonaf dân ar fur Gasa,
ac fe ddifa ei cheyrydd.
8Torraf ymaith y trigolion o Asdod,
a pherchen y deyrnwialen o Ascalon;
trof fy llaw yn erbyn Ecron,
a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW.
Tyrus
9Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Tyrus,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom,
ac anghofio cyfamod brawdol,
10anfonaf dân ar fur Tyrus,
ac fe ddifa ei cheyrydd.”
Edom
11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Edom,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddo ymlid ei frawd â chleddyf,
a mygu ei drugaredd,
a bod ei lid yn rhwygo'n barhaus
a'i ddigofaint yn dal am byth,
12anfonaf dân ar Teman,
ac fe ddifa geyrydd Bosra.”
Ammon
13Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau'r Ammoniaid,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead,
er mwyn ehangu eu terfynau,
14cyneuaf dân ar fur Rabba,
ac fe ddifa ei cheyrydd
â bloedd ar ddydd brwydr,
a chorwynt ar ddydd tymestl.
15A chaethgludir eu brenin,
ef a'i swyddogion i'w ganlyn,” medd yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Amos 1: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda