Actau 24:14-16
Actau 24:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi, ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn. Oherwydd hyn, yr wyf finnau hefyd yn ymroi i gadw cydwybod lân gerbron Duw a dynion yn wastad.
Actau 24:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i’n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw’n ei alw’n sect, sef y Ffordd. Dw i’n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau’r Proffwydi. Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae’r dynion eraill yma’n credu’r un peth! Felly dw i’n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i’n trin pobl eraill.
Actau 24:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi: A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion. Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi-rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.