Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 24

24
Yr Achos yn erbyn Paul
1Pum diwrnod yn ddiweddarach, daeth Ananias yr archoffeiriad i lawr gyda rhai henuriaid, a dadleuydd o'r enw Tertulus, a gosodasant gerbron y rhaglaw eu hachos yn erbyn Paul. 2Galwyd yntau gerbron, a dechreuodd Tertulus ei erlyniad, gan ddweud: 3“Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, â phob diolchgarwch. 4Ond rhag i mi dy gadw di yn rhy hir, yr wyf yn deisyf arnat i wrando ar ychydig eiriau gennym, os byddi mor garedig. 5Cawsom y dyn yma yn bla, yn codi ymrafaelion ymhlith yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn arweinydd yn sect y Nasareaid. 6Gwnaeth gynnig ar halogi'r deml hyd yn oed, ond daliasom ef.#24:6 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: Ac yr oeddem yn bwriadu ei farnu yn ôl ein Cyfraith ni. 7 : Ond daeth Lysias y capten a'i gymryd ef trwy drais mawr allan o'n dwylo ni, 8 : a gorchymyn i'w gyhuddwyr ddod ger dy fron di. 8Ac os holi di ef dy hun, gelli gael sicrwydd am bob dim yr ydym yn ei gyhuddo ohono.” 9Ymunodd yr Iddewon hefyd yn y cyhuddo, gan daeru mai felly yr oedd hi.
Paul yn ei Amddiffyn ei Hun gerbron Ffelix
10Yna atebodd Paul, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Mi wn dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i'r genedl hon, ac am hynny yr wyf yn amddiffyn fy achos yn galonnog. 11Oherwydd gelli gael sicrwydd nad oes dim mwy na deuddeg diwrnod er pan euthum i fyny i addoli yn Jerwsalem. 12Ni chawsant mohonof yn dadlau â neb nac yn casglu tyrfa, yn y deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas, 13ac ni allant brofi i ti y cyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn awr yn fy erbyn i. 14Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi, 15ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn. 16Oherwydd hyn, yr wyf finnau hefyd yn ymroi i gadw cydwybod lân gerbron Duw a dynion yn wastad. 17Ac ar ôl amryw flynyddoedd, deuthum i wneud elusennau i'm cenedl ac i offrymu aberthau, 18ac wrthi'n gwneud hyn y cawsant fi, wedi fy mhureiddio, yn y deml. Nid oedd yno na thyrfa na therfysg. 19Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniatáu fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn; 20neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin, 21heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: ‘Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.’ ”
22Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, “Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos.” 23Gorchmynnodd i'r canwriad fod Paul i'w gadw dan warchodaeth, ac i gael peth rhyddid, ac nad oeddent i rwystro neb o'i gyfeillion rhag gweini arno.
Dal Paul yn Garcharor
24Rhai dyddiau wedi hynny, daeth Ffelix yno gyda'i wraig Drwsila, a oedd yn Iddewes. Fe anfonodd am Paul, a gwrandawodd ar ei eiriau ynghylch ffydd yng Nghrist Iesu. 25Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunanddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, “Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle.” 26Yr un pryd, yr oedd yn gobeithio cael cildwrn gan Paul, ac oherwydd hynny byddai'n anfon amdano yn lled fynych, ac yn sgwrsio ag ef.
27Aeth dwy flynedd heibio, a dilynwyd Ffelix gan Porcius Ffestus; a chan ei fod yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gadawodd Ffelix Paul yn garcharor.

Dewis Presennol:

Actau 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda