Actau 20:18-21
Actau 20:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i’w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi’n gwybod yn iawn sut fues i’n gweithio i’r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia. Dych chi’n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi’n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i. Dych chi’n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i’r llall yn eich dysgu chi. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o’u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu.
Actau 20:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, “Fe wyddoch fel y bûm i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia, yn gwasanaethu'r Arglwydd â phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon. Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi, gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu.
Actau 20:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.