A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.
Darllen Actau’r Apostolion 20
Gwranda ar Actau’r Apostolion 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau’r Apostolion 20:18-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos