Actau 19:1-6
Actau 19:1-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Tra oedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr, a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?” “Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna’r fath beth ag Ysbryd Glân!” “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul. “Bedydd Ioan,” medden nhw. Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.” Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw’n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw’n perthyn i’r Arglwydd Iesu. Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw’n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo.
Actau 19:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion, a gofynnodd iddynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.” Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.” Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.” Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu, a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo.
Actau 19:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A digwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion, Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant.