A digwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion, Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant.
Darllen Actau’r Apostolion 19
Gwranda ar Actau’r Apostolion 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau’r Apostolion 19:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos