Actau 17:24-31
Actau 17:24-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fe ydy’r Duw wnaeth greu’r byd a phopeth sydd ynddo. Mae’n Arglwydd ar y nefoedd a’r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi’u hadeiladu gan bobl, a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno’i angen! Y Duw yma sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb. Fe ydy’r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy’n byw drwy’r byd i gyd. Mae’n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna’n bodoli, a lle’n union mae eu ffiniau daearyddol. Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a’i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd. Fel dwedodd un o’ch beirdd chi, ‘Dŷn ni’n byw, yn symud ac yn bod ynddo fe.’ Ac mae un arall yn dweud, ‘Ni yw ei blant.’ “Felly, os ydyn ni’n blant Duw, ddylen ni ddim meddwl amdano fel rhyw ddelw o aur neu arian neu faen – sef dim byd ond cerflun wedi’i ddylunio a’i greu gan grefftwr! Ydy, mae Duw wedi diystyru’r fath ddwli yn y gorffennol, ond bellach mae’n galw ar bobl ym mhobman i droi ato. Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna’n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â’r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”
Actau 17:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll. Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod. Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom. “ ‘Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’, “fel, yn wir, y dywedodd rhai o'ch beirdd chwi: “ ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’ “Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn. Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau, oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
Actau 17:24-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.