Actau 16:6-10
Actau 16:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aethant trwy ranbarth Phrygia a Galatia, ar ôl i'r Ysbryd Glân eu rhwystro rhag llefaru'r gair yn Asia. Wedi iddynt ddod hyd at Mysia, yr oeddent yn ceisio mynd i Bithynia, ond ni chaniataodd ysbryd Iesu iddynt. Ac aethant heibio i Mysia, a dod i lawr i Troas. Ymddangosodd gweledigaeth i Paul un noson—gŵr o Facedonia yn sefyll ac yn ymbil arno a dweud, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.” Pan gafodd ef y weledigaeth, rhoesom gynnig ar fynd i Facedonia ar ein hunion, gan gasglu mai Duw oedd wedi ein galw i gyhoeddi'r newydd da iddynt hwy.
Actau 16:6-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Teithiodd Paul a’i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi’u stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges. Dyma nhw’n cyrraedd ffin Mysia gyda’r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd. Felly dyma nhw’n mynd drwy Mysia i lawr i ddinas Troas. Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o’i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i’n helpu ni!” Felly, o ganlyniad i’r weledigaeth yma, dyma ni’n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i’r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi’r newyddion da.
Actau 16:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni. A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.