Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni. A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.
Darllen Actau’r Apostolion 16
Gwranda ar Actau’r Apostolion 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau’r Apostolion 16:6-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos