Actau 11:19-20
Actau 11:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ganlyniad i’r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw’n rhannu’r neges, ond dim ond gydag Iddewon. Ond yna dyma’r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi’r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill.
Actau 11:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled â Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond Iddewon yn unig. Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
Actau 11:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig. A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.