2 Timotheus 2:7-19
2 Timotheus 2:7-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth. Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu. Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw. Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol. Dyma air i'w gredu: “Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef; os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau; os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.” Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando. Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd. Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb, a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus; y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl. Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”.
2 Timotheus 2:7-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddylia am beth dw i’n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma’r newyddion da dw i’n ei gyhoeddi. A dyna’r union reswm pam dw i’n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i’n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! Felly dw i’n fodlon diodde’r cwbl er mwyn i’r bobl mae Duw wedi’u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda’r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; os byddwn ni’n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni’n gwadu ein bod ni’n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; Os ydyn ni’n anffyddlon, bydd e’n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. Dal ati i atgoffa pobl o’r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae’n drysu’r bobl sy’n gwrando. Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di’n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o’i waith. Bydd yn un sy’n esbonio’r gwir yn iawn. Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. Mae’n rywbeth sy’n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw’n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a’r geiriau hyn wedi’u cerfio arni: “Mae’r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy’n dweud eu bod nhw’n perthyn i’r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”
2 Timotheus 2:7-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth. Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu. Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw. Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol. Dyma air i'w gredu: “Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef; os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau; os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.” Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando. Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd. Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb, a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus; y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl. Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”.
2 Timotheus 2:7-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.