Meddylia am beth dw i’n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma’r newyddion da dw i’n ei gyhoeddi. A dyna’r union reswm pam dw i’n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i’n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! Felly dw i’n fodlon diodde’r cwbl er mwyn i’r bobl mae Duw wedi’u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda’r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; os byddwn ni’n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni’n gwadu ein bod ni’n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; Os ydyn ni’n anffyddlon, bydd e’n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. Dal ati i atgoffa pobl o’r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae’n drysu’r bobl sy’n gwrando. Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di’n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o’i waith. Bydd yn un sy’n esbonio’r gwir yn iawn. Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. Mae’n rywbeth sy’n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw’n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a’r geiriau hyn wedi’u cerfio arni: “Mae’r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy’n dweud eu bod nhw’n perthyn i’r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”
Darllen 2 Timotheus 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Timotheus 2:7-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos