2 Thesaloniaid 3:6-10
2 Thesaloniaid 3:6-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Nawr, dŷn ni’n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy’n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw. Dilynwch ein hesiampl ni. Fuon ni ddim yn ddiog pan oedden ni gyda chi. Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni’n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i’n cynnal ni. Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn. “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi.
2 Thesaloniaid 3:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn ôl y traddodiad a dderbyniodd gennym ni. Gwyddoch yn iawn fel y dylech ein hefelychu ni, oherwydd nid segura y buom ni yn eich plith, na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch. Nid nad oes gennym hawl arnoch, ond gwnaethom hyn er mwyn ein rhoi ein hunain yn esiampl i chwi i'w hefelychu. Ac yn wir, pan oeddem yn eich plith, rhoesom y gorchymyn hwn i chwi: os oes rhywun sy'n anfodlon gweithio, peidied â bwyta chwaith.
2 Thesaloniaid 3:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni. Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi; Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi; Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn. Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith.