Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Thesaloniaid 3

3
1Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau; 2Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb. 3Eithr ffyddlon yw’r Arglwydd, yr hwn a’ch sicrha chwi, ac a’ch ceidw rhag drwg. 4Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi. 5A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist. 6Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni. 7Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi; 8Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi; 9Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn. 10Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith. 11Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar. 12Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym, a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain. 13A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni. 14Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe. 15Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd. 16Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll. 17Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu. 18Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

Dewis Presennol:

2 Thesaloniaid 3: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd