2 Thesaloniaid 3:14-15
2 Thesaloniaid 3:14-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Cadwch lygad ar unrhyw un sy’n gwrthod gwneud beth dŷn ni’n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno. Ond peidiwch ei drin fel gelyn – dim ond ei rybuddio fel brawd a’i helpu i newid.
2 Thesaloniaid 3:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch â chymdeithasu â hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt. Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.
2 Thesaloniaid 3:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe. Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.