2 Thesaloniaid 2:3-7
2 Thesaloniaid 2:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio. Dyma'r gwrthwynebydd sy'n ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn dduw neu sy'n wrthrych addoliad, nes eistedd ei hunan yn nheml Duw, gan gyhoeddi mai ef sydd Dduw. Onid ydych yn cofio fy mod wedi dweud hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi? Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn ôl er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef. Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd.
2 Thesaloniaid 2:3-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i’r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy’n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i’r golwg, sef yr un sydd wedi’i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw. Dyma elyn mawr Duw, yr un sy’n meddwl ei fod yn well na’r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‘dduw’ arall sy’n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw. Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi? Dylech wybod, felly, am y grym sy’n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i’r golwg cyn i’r amser iawn gyrraedd. Wrth gwrs, mae’r dylanwad dirgel sy’n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy’n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o’r neilltu.
2 Thesaloniaid 2:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.