Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Thesaloniaid 2

2
Yr Un Digyfraith
1Ynglŷn â dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynnull ni ato ef, yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, 2beidio â chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod. 3Peidiwch â chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith#2:3 Yn ôl darlleniad arall, dyn pechod., plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio. 4Dyma'r gwrthwynebydd sy'n ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn dduw neu sy'n wrthrych addoliad, nes eistedd ei hunan yn nheml Duw, gan gyhoeddi mai ef sydd Dduw. 5Onid ydych yn cofio fy mod wedi dweud hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi? 6Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn ôl er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef. 7Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd. 8Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad. 9Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau, 10a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub. 11Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd, 12ac felly bydd pawb sydd heb gredu'r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu.
Wedi Eich Dewis i Iachawdwriaeth
13Ond fe ddylem ni ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion annwyl gan yr Arglwydd, am i Dduw eich dewis chwi fel y rhai cyntaf i brofi#2:13 Yn ôl darlleniad arall, eich dewis o'r dechreuad i. iachawdwriaeth trwy waith sancteiddiol gan yr Ysbryd a thrwy gredu'r gwirionedd. 14I hyn y galwodd ef chwi, trwy'r Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu: i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15Am hynny, gyfeillion, safwch yn gadarn, a glynwch wrth y traddodiadau yr ydych wedi eu dysgu gennym ni, naill ai ar air neu trwy lythyr. 16A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras, 17ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!

Dewis Presennol:

2 Thesaloniaid 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd