2 Samuel 18:31-33
2 Samuel 18:31-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i’m meistr, y brenin! Mae’r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.” A dyma’r brenin yn holi’r dyn, “Ydy’r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe’n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy’n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!” Roedd y brenin wedi ypsetio’n lân. Aeth i fyny i’r ystafell uwchben y giât yn crio, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.”
2 Samuel 18:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, “Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn.” Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Atebodd yr Ethiopiad, “Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc.” Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, “O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!”
2 Samuel 18:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywedodd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn. A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ddihangodd y llanc Absalom? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti. A’r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!