Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 18

18
Gorchfygu a Lladd Absalom
1Rhestrodd Dafydd y bobl oedd gydag ef, a phenodi capteiniaid ar filoedd a chapteiniaid ar gannoedd. 2Yna rhannodd y fyddin yn dair, traean o dan Joab, traean dan Abisai fab Serfia, brawd Joab, a thraean dan Itai y Gethiad; a dywedodd y brenin wrth y fyddin, “Mi ddof finnau hefyd gyda chwi.” 3Ond atebasant, “Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal â deng mil ohonom ni#18:3 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, ond yn awr y mae deng mil fel ni.. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas.” 4Dywedodd y brenin y gwnâi'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd. 5Gorchmynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, “Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom.” Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglŷn ag Absalom.
6Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim. 7Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno—ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw. 8Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen. 10Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen. 11Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, “Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys.” 12Ond dywedodd y dyn wrth Joab, “Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom â'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, ‘Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.’ 13Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr.” 14Atebodd Joab, “Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi.” Cymerodd dair picell#18:14 Felly Groeg. Hebraeg, gwialen. yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen. 15Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd. 16Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n ôl. 17Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.
18Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, “Oherwydd,” meddai, “nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof.” Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.
Hysbysu Dafydd am Farwolaeth Absalom
19Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.” 20Ond dywedodd Joab wrtho, “Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw.” 21Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith. 22Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, “Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad.” Gofynnodd Joab, “Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges.” 23Ond plediodd, “Sut bynnag y bydd, gad imi fynd.” Felly dywedodd wrtho, “Dos, ynteu.” Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.
24Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun. 25Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.” 26Fel yr oedd yn dal i agosáu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, “Dacw ddyn arall#18:26 Felly Fersiynau. Hebraeg heb arall. yn rhedeg ar ei ben ei hun.” Dywedodd y brenin, “Negesydd yw hwn eto.” 27Yna dywedodd y gwyliwr, “Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc.” Ac meddai'r brenin, “Dyn da yw hwnnw; daw ef â newyddion da,” 28Pan gyrhaeddodd#18:28 Felly Fersiynau. Hebraeg, alwodd. Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, “Heddwch!” Yna moesymgrymodd i'r brenin â'i wyneb i'r llawr, a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin.” 29Gofynnodd y brenin, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Ac meddai Ahimaas, “Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd.” 30Dywedodd y brenin, “Saf yma o'r neilltu.” Felly safodd o'r neilltu. 31Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, “Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn.” 32Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Atebodd yr Ethiopiad, “Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc.” 33Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, “O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!”

Dewis Presennol:

2 Samuel 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda