2 Samuel 12:7-15
2 Samuel 12:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, “Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, ‘Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul; rhois iti dŷ dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd dŷ Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto. Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad â'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef â chleddyf yr Ammoniaid. Bellach ni thry'r cleddyf oddi wrth dy dŷ hyd byth, gan i ti fy nirmygu i a chymryd gwraig Ureia yr Hethiad yn wraig i ti.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn. Yn llechwraidd y gweithredaist ti, ond fe wnaf fi'r peth hwn yng ngŵydd Israel gyfan ac yn wyneb haul.’ ” Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw. Ond oherwydd iti lwyr ddiystyru'r ARGLWYDD yn y mater hwn, yn ddios bydd farw y bachgen a enir iti.” Wedi i Nathan fynd adref, trawodd yr ARGLWYDD y plentyn a ymddûg gwraig Ureia i Ddafydd, a chlafychodd.
2 Samuel 12:7-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy’r dyn! Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a’i wragedd. A dw i wedi rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A phetai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi mwy eto i ti. Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’ Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i’n cymryd dy wragedd di a’u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e’n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored. Er dy fod ti wedi trio cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i’n mynd i’w wneud!’” Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” A dyma Nathan yn dweud, “Wyt, ond mae’r ARGLWYDD hefyd wedi maddau dy bechod. Ti ddim yn mynd i farw. Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o’r ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.” Yna aeth Nathan yn ôl adre.
2 Samuel 12:7-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer. Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDD, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon. Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau. A Nathan a aeth i’w dŷ. A’r ARGLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn.