2 Samuel 12:1-10
2 Samuel 12:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Anfonodd yr ARGLWYDD y proffwyd Nathan at Ddafydd; a phan ddaeth, dywedodd wrtho: “Yr oedd dau ddyn mewn rhyw dref, un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. Yr oedd gan yr un cyfoethog lawer iawn o ddefaid ac ychen; ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahân i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gôl; yr oedd fel merch iddo. Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio â chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato.” Enynnodd dig Dafydd yn fawr yn erbyn y dyn, a dywedodd wrth Nathan, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, y mae'r dyn a wnaeth hyn yn haeddu marw! Rhaid iddo dalu'r oen yn ôl bedair gwaith am wneud y fath beth ac am beidio â dangos trugaredd.” Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, “Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, ‘Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul; rhois iti dŷ dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd dŷ Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto. Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad â'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef â chleddyf yr Ammoniaid. Bellach ni thry'r cleddyf oddi wrth dy dŷ hyd byth, gan i ti fy nirmygu i a chymryd gwraig Ureia yr Hethiad yn wraig i ti.’
2 Samuel 12:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a dyma fe’n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a’r llall yn dlawd. Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg. Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi’i phrynu a’i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a’i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai’n ferch fach iddo. Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o’i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe’n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i’w ymwelydd o hwnnw.” Roedd Dafydd wedi gwylltio’n lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mae’r dyn yna’n haeddu marw! Rhaid iddo roi pedwar oen yn ôl i’r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!” A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy’r dyn! Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a’i wragedd. A dw i wedi rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A phetai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi mwy eto i ti. Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’
2 Samuel 12:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg: A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytâi hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, i arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i paratôdd i’r gŵr a ddaethai ato. A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd. A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer. Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDD, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon. Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.