Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 11:1-24

2 Samuel 11:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a’i fyddin allan. Dyma Joab a’i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Yn hwyr un p’nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O’r fan honno dyma fe’n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi’n wraig arbennig o hardd. Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda’r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.” Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i’w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe’n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod drwy’r ddefod o buro’i hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi’n mynd yn ôl adre. Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi’n disgwyl babi, dyma hi’n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho. Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny. Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a’r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel. Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A phan adawodd Wreia y palas, dyma’r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl. Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda’r gweision eraill wrth ddrws y palas. Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.” Atebodd Wreia, “Mae’r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a’r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi’n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!” Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda’r nos dyma fe’n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre. Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab. Dyma beth roedd wedi’i ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae’r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a’i adael i gael ei daro a’i ladd.” Roedd Joab wedi bod yn gwylio dinas Rabba, a dyma fe’n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau’r gelyn yn ymladd. Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod, a chafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd. Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr. Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi’n rhoi’r adroddiad o beth ddigwyddodd i’r brenin, falle y bydd e’n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i’r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw’n saethu o ben y waliau? Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i’r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’” Felly, dyma’r negesydd yn mynd ac yn rhoi’r adroddiad yn llawn i Dafydd. Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni’n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas. Ond wedyn dyma’r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”

2 Samuel 11:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn. Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, “Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?” Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref. Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog. Anfonodd Dafydd at Joab, “Anfon ataf Ureia yr Hethiad.” Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel. Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Dos i lawr adref a golchi dy draed.” Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl. Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun. Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?” Atebodd Ureia, “Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!” Dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n ôl yfory.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw. A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref. Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia. Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw.” Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr. A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd. Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd. Gorchmynnodd i'r negesydd, “Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin, yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: ‘Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur? Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?’—yna dywed tithau, ‘Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw’.” Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud. Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, “Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth, a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw.”

2 Samuel 11:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem. A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad? A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. A’r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog. A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.