Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Pedr 3:3-15

2 Pedr 3:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Deallwch hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr sy'n byw yn ôl eu chwantau eu hunain, ac yn holi'n goeglyd: “Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth.” Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddŵr a thrwy ddŵr gan air Duw; a thrwy ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw. Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol. Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch. Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod. Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod, a chwithau'n disgwyl am Ddydd Duw ac yn prysuro ei ddyfodiad, y Dydd pan ddatodir y nefoedd gan dân ac y toddir yr elfennau gan wres. Ond disgwyl yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu. Felly, gyfeillion annwyl, gwnewch eich gorau, wrth ddisgwyl am y pethau hyn, i fod yn ddi-nam a di-fai yng ngolwg Duw, ac i'ch cael mewn tangnefedd. Ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein brawd annwyl, Paul, atoch yn ôl y ddoethineb a roddwyd iddo ef.

2 Pedr 3:3-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y peth pwysig i’w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‘chwarae crefydd’, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o’r gwirionedd. Byddan nhw’n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau’r byd!” Ond wrth siarad felly maen nhw’n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr. Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i’r byd drwy foddi’r cwbl adeg y dilyw. Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi’u cadw i fynd drwy dân. Ie, wedi’u cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio. Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I’r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod . Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi’i addo, fel mae rhai’n meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd. Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i’r golwg i gael ei farnu. Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae’n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy’n rhoi Duw yn y canol, ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a’r elfennau yn toddi yn y gwres. Ond dŷn ni’n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Duw wedi’i haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e. Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi’n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy’n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw. Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna’n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe.

2 Pedr 3:3-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef