Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Pedr 3:3-15

2 Pedr 3:3-15 BNET

Y peth pwysig i’w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‘chwarae crefydd’, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o’r gwirionedd. Byddan nhw’n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau’r byd!” Ond wrth siarad felly maen nhw’n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr. Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i’r byd drwy foddi’r cwbl adeg y dilyw. Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi’u cadw i fynd drwy dân. Ie, wedi’u cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio. Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I’r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod . Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi’i addo, fel mae rhai’n meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd. Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i’r golwg i gael ei farnu. Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae’n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy’n rhoi Duw yn y canol, ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a’r elfennau yn toddi yn y gwres. Ond dŷn ni’n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Duw wedi’i haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e. Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi’n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy’n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw. Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna’n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 2 Pedr 3:3-15