2 Brenhinoedd 6:24-33
2 Brenhinoedd 6:24-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Flynyddoedd wedyn dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin at ei gilydd a mynd i godi gwarchae ar Samaria. O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a phowlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian. Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau’r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!” Ond dyma fe’n ateb, “Na, rhaid i’r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae’r llawr dyrnu a’r cafn gwin yn wag!” Wedyn dyma’r brenin yn gofyn iddi, “Beth sy’n bod?” A dyma hi’n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’ Felly dyma ni’n berwi fy mab i, a’i fwyta. Yna’r diwrnod wedyn dyma fi’n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.” Pan glywodd y brenin hyn dyma fe’n rhwygo’i ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e’n gwisgo sachliain oddi tanodd. A dyma’r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!” Roedd Eliseus yn digwydd bod yn ei dŷ, ag arweinwyr Samaria o’i gwmpas. Roedd y brenin wedi anfon un o’i ddynion i’w arestio. Ond cyn iddo gyrraedd roedd Eliseus wedi dweud wrth yr arweinwyr o’i gwmpas, “Ydych chi’n gwybod beth? Mae’r cyw llofrudd yna wedi anfon dyn i dorri fy mhen i i ffwrdd. Pan fydd e’n cyrraedd, caewch y drws a’i rwystro rhag dod i mewn. Dw i’n siŵr y bydd y brenin ei hun ddim yn bell tu ôl iddo!” Doedd Eliseus ddim wedi gorffen siarad pan gyrhaeddodd y negesydd. A dyma fe’n dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi achosi’r drwg yma. Pam ddylwn i ddisgwyl help ganddo?”
2 Brenhinoedd 6:24-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymhen amser, cynullodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin a mynd i warchae ar Samaria. Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl. Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mur, gwaeddodd gwraig arno, “F'arglwydd frenin, helpa fi!” Ond dywedodd, “Na! Bydded i'r ARGLWYDD dy helpu; o ble y caf fi help iti—ai o'r llawr dyrnu neu o'r gwinwryf?” Yna gofynnodd y brenin, “Beth sydd o'i le?” Meddai hithau, “Dywedodd y ddynes yma wrthyf, ‘Dyro di dy blentyn inni ei fwyta heddiw, a chawn fwyta fy mab i yfory.’ Felly berwyd fy mab i a'i fwyta, ac yna dywedais wrthi y diwrnod wedyn, ‘Dyro dithau dy fab inni ei fwyta.’ Ond y mae hi wedi cuddio'i phlentyn.” Pan glywodd y brenin eiriau'r wraig, rhwygodd ei wisg; a chan ei fod yn cerdded ar y mur, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain yn nesaf at ei groen. Ac meddai, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os ceidw Eliseus fab Saffat ei ben ar ei ysgwyddau heddiw.” Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin ŵr o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, “A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed sŵn traed ei feistr yn ei ddilyn?” A thra oedd eto'n siarad â hwy, dyna'r brenin yn cyrraedd ac yn dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth ein haflwydd, pam y disgwyliaf rhagor wrtho?”
2 Brenhinoedd 6:24-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria. Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian. Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin. Dywedodd yntau, Oni achub yr ARGLWYDD dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf? A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory. Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab. A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn. Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo DUW i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw. Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef? Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy?