2 Brenhinoedd 6:15-17
2 Brenhinoedd 6:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu’r dre. A dyma’r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nag sydd gyda nhw.” Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma’r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e’n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.
2 Brenhinoedd 6:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.” Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.
2 Brenhinoedd 6:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan gododd gweinidog gŵr DUW yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn? Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt. Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.