2 Brenhinoedd 2:9-14
2 Brenhinoedd 2:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus. Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i’n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe’i cei. Os ddim, gei di ddim.” Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. Gwelodd Eliseus e, a dyma fe’n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o’i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a’u rhwygo’n ddau. Dyma fe’n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen. Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall.
2 Brenhinoedd 2:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.” Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.” Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen. Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.
2 Brenhinoedd 2:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi. Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd. Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd. Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn. Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.