Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 2:13-25

2 Brenhinoedd 2:13-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma fe’n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen. Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall. Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw’n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw’n mynd ato a plygu i lawr o’i flaen, a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi’i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a’u hanfon nhw.” Ond buon nhw’n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo’n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe’n cytuno, a dyma’r proffwydi’n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw’n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?” Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae’r dre yma mewn safle da, fel ti’n gweld, syr. Ond mae’r dŵr yn wael a dydy’r cnydau ddim yn tyfu.” “Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw’n gwneud hynny, a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu’r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i’n puro’r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’” Ac mae’r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud. Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o’r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw’n gweiddi, “Bacha hi, y moelyn! Bacha hi, y moelyn!” Dyma fe’n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i’w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o’r goedwig a llarpio pedwar deg dau o’r bechgyn. Aeth Eliseus ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.

2 Brenhinoedd 2:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen. Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus. Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.” Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.” Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?” Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, “Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r dŵr yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth.” Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.” Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy.” Ac y mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus. Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, “Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!” Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant. Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.

2 Brenhinoedd 2:13-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd. A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo. A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe. Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn. Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain. Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.