2 Brenhinoedd 17:6-7
2 Brenhinoedd 17:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft.
2 Brenhinoedd 17:6-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â’r bobl yn gaethion i’w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD eu Duw – y Duw oedd wedi’u rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o’r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill
2 Brenhinoedd 17:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr