Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 17

17
Hosea Brenin Israel
1Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, daeth Hosea fab Ela yn frenin ar Israel yn Samaria am naw mlynedd. 2Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel brenhinoedd Israel o'i flaen. 3Ymosododd Salmaneser brenin Asyria arno, ac ymostyngodd Hosea ac anfon teyrnged iddo. 4Ond darganfu brenin Asyria fod Hosea'n ei dwyllo, a'i fod wedi anfon cenhadau at So brenin yr Aifft, ac atal y deyrnged yr arferai ei thalu'n flynyddol i frenin Asyria; felly daliodd ef a'i garcharu. 5Yna ymosododd ar y wlad i gyd, ac aeth i fyny yn erbyn Samaria a gwarchae arni am dair blynedd. 6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
Cwymp Samaria
7Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft. 8Aethant i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid; hynny hefyd a wnaeth brenhinoedd Israel. 9Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog, 10a chodi hefyd golofnau a physt cysegredig ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas. 11Yno yn yr holl uchelfeydd yr oeddent yn arogldarthu yr un fath â'r cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o'u blaen, ac yn cyflawni gweithredoedd drygionus i ddigio'r ARGLWYDD, 12ac yn addoli eilunod, er i'r ARGLWYDD wahardd hyn iddynt. 13Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Israel a Jwda drwy bob proffwyd a gweledydd, a dweud, “Trowch oddi wrth eich gweithredoedd drwg, a chadwch fy ngorchmynion a'm deddfau yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch hynafiaid ac a hysbysais i chwi drwy fy ngweision y proffwydi.” 14Eto nid oeddent yn gwrando, ond yn ystyfnigo fel eu hynafiaid oedd heb ymddiried yn yr ARGLWYDD eu Duw. 15Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly. 16Yr oeddent yn diystyru holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddwy ddelw o lo, a delw o Asera. Yr oeddent yn ymgrymu i holl lu'r nef, yn addoli Baal, ac yn peri i'w meibion a'u merched fynd trwy dân. 17Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio. 18Llidiodd yr ARGLWYDD yn fawr yn erbyn Israel, a gyrrodd hwy o'i ŵydd, heb adael ond llwyth Jwda'n unig ar ôl. 19Eto ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ond dilyn yr un arferion ag Israel. 20Felly gwrthododd yr ARGLWYDD holl hil Israel, a'u darostwng a'u rhoi yn llaw rheibwyr, ac yna'u bwrw'n llwyr o'i ŵydd.
21Pan dorrodd Israel i ffwrdd oddi wrth linach Dafydd, gwnaethant Jeroboam fab Nebat yn frenin, a throdd yntau hwy oddi wrth yr ARGLWYDD a pheri iddynt bechu'n fawr. 22Glynodd yr Israeliaid wrth holl bechodau Jeroboam, heb droi oddi wrthynt, 23hyd nes i'r ARGLWYDD yrru Israel o'i ŵydd, fel yr oedd wedi dweud trwy ei weision y proffwydi; a chaethgludwyd Israel o'u gwlad i Asyria hyd heddiw.
Asyriaid yn Dod i Fyw yn Israel
24Yna daeth brenin Asyria â phobl o Babilon, Cutha, Awa, Hamath a Seffarfaim a'u rhoi yn nhrefi Samaria yn lle'r Israeliaid; cawsant feddiannu Samaria a byw yn ei threfi. 25Pan ddaethant yno i fyw gyntaf, nid oeddent yn addoli'r ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD lewod i'w plith a byddai'r rheini'n eu lladd. 26Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.” 27Gorchmynnodd brenin Asyria, “Anfonwch yn ôl un o'r offeiriaid a ddygwyd oddi yno; gadewch iddo fynd i fyw yno, a dysgu defod duw'r wlad iddynt.” 28Felly aeth un o'r offeiriaid, a gafodd ei gaethgludo o Samaria, i fyw ym Methel, a'u dysgu sut i addoli'r ARGLWYDD.
29Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw. 30Yr oedd pobl Babilon yn gwneud Sucoth-benoth, pobl Cuth yn gwneud Nergal, pobl Hamath yn gwneud Asima, 31yr Awiaid yn gwneud Nibhas a Tartac, a gwŷr Seffarfaim yn llosgi eu plant i Adrammelech ac Anammelech duwiau Seffarfaim. 32Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, ac ar yr un pryd yn penodi o'u mysg rai o bob math yn offeiriaid, i weithredu drostynt yng nghysegrau'r uchelfeydd. 33Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, a hefyd yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain yn ôl defod y genedl y caethgludwyd hwy ohoni i Samaria. 34Hyd heddiw y maent yn dal at eu hen arferion. Nid addoli'r ARGLWYDD y maent, na gweithredu yn ôl y deddfau a'r arfer#17:34 Hebraeg, yn ôl eu deddfau a'u harfer. a'r gyfraith a'r gorchymyn a roes yr ARGLWYDD i feibion Jacob, a enwyd Israel. 35Oherwydd, wrth wneud cyfamod â hwy, gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt, “Peidiwch ag addoli duwiau eraill nac ymostwng iddynt na'u gwasanaethu nac aberthu iddynt, 36ond yn hytrach addoli ac ymostwng ac aberthu i'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi o wlad yr Aifft â nerth mawr a braich estynedig. 37Gofalwch gadw bob amser y deddfau a'r barnedigaethau a'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennodd ef ar eich cyfer; peidiwch ag addoli duwiau eraill. 38Peidiwch ychwaith ag anghofio'r cyfamod a wneuthum â chwi, a pheidiwch ag addoli duwiau eraill. 39Ond addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe'ch gwared o law eich holl elynion.” 40Eto ni wrandawsant, eithr dal at eu hen arferion. 41Yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli'r ARGLWYDD, a'r un pryd yn gwasanaethu eu delwau; ac y mae eu plant a'u hwyrion wedi gwneud fel eu hynafiaid hyd heddiw.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd