2 Brenhinoedd 17:24-31
2 Brenhinoedd 17:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth brenin Asyria â phobl o Babilon, Cutha, Awa, Hamath a Seffarfaim a'u rhoi yn nhrefi Samaria yn lle'r Israeliaid; cawsant feddiannu Samaria a byw yn ei threfi. Pan ddaethant yno i fyw gyntaf, nid oeddent yn addoli'r ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD lewod i'w plith a byddai'r rheini'n eu lladd. Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.” Gorchmynnodd brenin Asyria, “Anfonwch yn ôl un o'r offeiriaid a ddygwyd oddi yno; gadewch iddo fynd i fyw yno, a dysgu defod duw'r wlad iddynt.” Felly aeth un o'r offeiriaid, a gafodd ei gaethgludo o Samaria, i fyw ym Methel, a'u dysgu sut i addoli'r ARGLWYDD. Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw. Yr oedd pobl Babilon yn gwneud Sucoth-benoth, pobl Cuth yn gwneud Nergal, pobl Hamath yn gwneud Asima, yr Awiaid yn gwneud Nibhas a Tartac, a gwŷr Seffarfaim yn llosgi eu plant i Adrammelech ac Anammelech duwiau Seffarfaim.
2 Brenhinoedd 17:24-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, a’u symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhw’n cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi. Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoli’r ARGLWYDD; felly dyma’r ARGLWYDD yn anfon llewod atyn nhw, a dyma’r llewod yn lladd rhai pobl. Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy’r bobloedd rwyt ti wedi’u symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw’r wlad. Mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae’r rheiny yn eu lladd nhw.” Felly dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o’r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e’n gallu byw gyda nhw a’u dysgu nhw beth mae duw’r wlad yn ei ddisgwyl.” A dyma un o’r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn cael ei anfon yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu’r bobl sut i barchu’r ARGLWYDD. Ond roedd y gwahanol bobloedd oedd yn byw yno yn gwneud delwau o’u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn y temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o’r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw’n byw. Dyma’r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima a’r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i’w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech.
2 Brenhinoedd 17:24-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr ARGLWYDD; am hynny yr ARGLWYDD a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai ohonynt. Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod DUW y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod DUW y wlad. Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod DUW y wlad. Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr ARGLWYDD. Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt. A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth-benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima, A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.