Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 11:1-21

2 Brenhinoedd 11:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi’n mynd ati i gael gwared â’r llinach frenhinol i gyd. Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i’r brenin Jehoram. Dyma hi’n cymryd Joas, mab Ahaseia, a’i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe’n cael ei guddio gyda’i nyrs yn un o ystafelloedd gwely’r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo’i ladd ganddi. Bu’n cuddio gyda’i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia’n rheoli’r wlad. Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a’r gwarchodlu brenhinol i fynd i’w weld. Dyma fe’n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe’n dangos mab y brenin iddyn nhw, a gorchymyn, “Dyma dych chi i’w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o’r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas. Bydd un rhan o dair wedi cymryd eu lle wrth giât Swr, a’r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i’r gwarchodlu brenhinol. Bydd y ddwy uned sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin. Rhaid i chi sefyll o’i gwmpas gyda’ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda’r brenin ble bynnag mae’n mynd.” Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada’r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a’r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada. Dyma’r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i’r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD. Yna dyma’r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda’u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw’n sefyll mewn llinell o un ochr i’r deml i’r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o’r deml, i amddiffyn y brenin. Wedyn dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi’r goron ar ei ben a chopi o’r rheolau sy’n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw’n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i’r brenin!” Dyma Athaleia’n clywed sŵn y gwarchodlu a’r bobl, a mynd atyn nhw i’r deml. Yno dyma hi’n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a’r trwmpedwyr o’i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a’r utgyrn yn canu ffanffer. Pan welodd hi hyn i gyd, dyma hi’n rhwygo’i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!” Yna dyma Jehoiada’r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o’r deml heibio’r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.” Felly dyma nhw’n ei harestio hi a mynd â hi i’r palas brenhinol drwy’r fynedfa i’r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd. Dyma Jehoiada yn selio’r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â’r brenin a’i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i’r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a’r bobl hefyd. Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a’i dinistrio. Dyma nhw’n chwalu’r allorau a malu’r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada’r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD. Yna dyma fe’n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a’r gwarchodlu brenhinol, a’r bobl i gyd. A dyma nhw’n arwain y brenin mewn prosesiwn o’r deml i’r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma’r brenin yn eistedd ar yr orsedd. Roedd pawb drwy’r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas. Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.

2 Brenhinoedd 11:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol. Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef. A bu ynghudd gyda hi yn nhŷ'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad. Ond yn y seithfed flwyddyn anfonodd Jehoiada am gapteiniaid y Cariaid a'r gwarchodlu, a'u dwyn ato i dŷ'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb â hwy, a pharodd iddynt dyngu llw yn nhŷ'r ARGLWYDD; yna dangosodd iddynt fab y brenin, a gorchymyn iddynt, “Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch yn dod i mewn ar y Saboth ac ar wyliadwriaeth yn y palas; y mae'r ail draean ym mhorth Sur, a'r trydydd ym mhorth cefn y gwarchodlu, ac yn cymryd eu tro i warchod y palas. Ond yn awr, y mae'r ddau gwmni sy'n rhydd ar y Saboth i warchod o gwmpas y brenin yn nhŷ'r ARGLWYDD. Safwch o amgylch y brenin, pob un â'i arfau yn ei law, a lladdwch unrhyw un a ddaw'n agos at y rhengoedd; arhoswch gyda'r brenin ble bynnag yr â.” Gwnaeth y capteiniaid bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, a dod at yr offeiriad Jehoiada. Yna rhoddodd yr offeiriad i'r capteiniaid y gwaywffyn a'r tarianau a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD. Safodd y gwarchodlu i amgylchu'r brenin, pob un â'i arfau yn ei law, ar draws y tŷ o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tŷ. Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddasant ef yn frenin, a'i eneinio, a churo dwylo a dweud, “Byw fyddo'r brenin!” Clywodd Athaleia drwst y gwarchodlu a'r bobl, a daeth atynt i dŷ'r ARGLWYDD. Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth y golofn yn ôl y ddefod, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, rhwygodd ei dillad a gweiddi, “Brad, brad!” Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, “Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladdwch â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier,” meddai'r offeiriad, “â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD.” Felly daliasant hi a'i dwyn at fynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno. Gwnaeth Jehoiada gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a'r brenin a'i bobl, iddynt fod yn bobl i'r ARGLWYDD; gwnaeth gyfamod hefyd rhwng y brenin a'r bobl. Aeth holl bobl y wlad at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau; a phenododd yr offeiriad arolygwyr ar dŷ'r ARGLWYDD. Yna cymerodd Jehoiada y capteiniaid a'r Cariaid a'r gwarchodlu, a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o dŷ'r ARGLWYDD, a'i ddwyn trwy borth y gwarchodlu i'r palas a'i osod ar yr orsedd frenhinol. Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia â'r cleddyf yn y palas. Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin.

2 Brenhinoedd 11:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol. Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef. Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad. Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth â hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin: A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri. A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin. A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn. A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad. A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD. A’r swyddogion a safasant bob un â’i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin. Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin. A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD. A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD. A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi. A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r ARGLWYDD; a rhwng y brenin a’r bobl. A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr ARGLWYDD. Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd. A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dŷ y brenin. Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.