2 Brenhinoedd 11
11
Athaleia Brenhines Jwda
1Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol. 2Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef. 3A bu ynghudd gyda hi yn nhŷ'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad. 4Ond yn y seithfed flwyddyn anfonodd Jehoiada am gapteiniaid y Cariaid a'r gwarchodlu, a'u dwyn ato i dŷ'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb â hwy, a pharodd iddynt dyngu llw yn nhŷ'r ARGLWYDD; yna dangosodd iddynt fab y brenin, 5a gorchymyn iddynt, “Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch yn dod i mewn ar y Saboth ac ar wyliadwriaeth yn y palas; 6y mae'r ail draean ym mhorth Sur, a'r trydydd ym mhorth cefn y gwarchodlu, ac yn cymryd eu tro i warchod y palas. 7Ond yn awr, y mae'r ddau gwmni sy'n rhydd ar y Saboth i warchod o gwmpas y brenin yn nhŷ'r ARGLWYDD. 8Safwch o amgylch y brenin, pob un â'i arfau yn ei law, a lladdwch unrhyw un a ddaw'n agos at y rhengoedd; arhoswch gyda'r brenin ble bynnag yr â.”
9Gwnaeth y capteiniaid bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, a dod at yr offeiriad Jehoiada. 10Yna rhoddodd yr offeiriad i'r capteiniaid y gwaywffyn a'r tarianau a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD. 11Safodd y gwarchodlu i amgylchu'r brenin, pob un â'i arfau yn ei law, ar draws y tŷ o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tŷ. 12Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddasant ef yn frenin, a'i eneinio, a churo dwylo a dweud, “Byw fyddo'r brenin!”
13Clywodd Athaleia drwst y gwarchodlu a'r bobl, a daeth atynt i dŷ'r ARGLWYDD. 14Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth y golofn yn ôl y ddefod, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, rhwygodd ei dillad a gweiddi, “Brad, brad!” 15Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, “Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladdwch â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier,” meddai'r offeiriad, “â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD.” 16Felly daliasant hi a'i dwyn at fynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
Diwygiadau Jehoiada
2 Cron. 23:16–21
17Gwnaeth Jehoiada gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a'r brenin a'i bobl, iddynt fod yn bobl i'r ARGLWYDD; gwnaeth gyfamod hefyd rhwng y brenin a'r bobl. 18Aeth holl bobl y wlad at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau; a phenododd yr offeiriad arolygwyr ar dŷ'r ARGLWYDD. 19Yna cymerodd Jehoiada y capteiniaid a'r Cariaid a'r gwarchodlu, a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o dŷ'r ARGLWYDD, a'i ddwyn trwy borth y gwarchodlu i'r palas a'i osod ar yr orsedd frenhinol. 20Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia â'r cleddyf yn y palas. 21#11:21 Hebraeg, 12:1. Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin.
Dewis Presennol:
2 Brenhinoedd 11: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004