2 Corinthiaid 8:1-7
2 Corinthiaid 8:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi’i rhoi i’r eglwysi yn nhalaith Macedonia. Er eu bod nhw wedi bod drwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw’n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw’n anhygoel o hael! Dw i’n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw’n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw’u hunain, oedd yn pledio’n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem. Dyma nhw’n gwneud llawer mwy nag oedden ni’n ei ddisgwyl, drwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i’r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna’n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud! I hyn dw i’n dod: dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i’ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith. Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi’n hael hefyd.
2 Corinthiaid 8:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fe garem ichwi wybod, gyfeillion, am y gras a roddwyd gan Dduw yn yr eglwysi ym Macedonia. Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt. Yr wyf yn dyst iddynt roi yn ôl eu gallu, a'r tu hwnt i'w gallu, a hynny o'u gwirfodd eu hunain, gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint— ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn ôl ewyllys Duw. Felly yr ydym wedi gofyn i Titus orffen y gwaith grasusol hwn yn eich plith yn union fel y dechreuodd arno. Ym mhob peth yr ydych yn helaeth, yn eich ffydd a'ch ymadrodd a'ch gwybodaeth, yn eich ymroddiad llwyr ac yn y cariad a enynnwyd ynoch gan ein cariad ni. Felly hefyd byddwch yn helaeth yn y gorchwyl grasusol hwn.
2 Corinthiaid 8:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.