2 Corinthiaid 6:8-10
2 Corinthiaid 6:8-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dŷn ni weithiau’n cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn ni’n cael ein galw’n dwyllwyr er ein bod ni’n dweud y gwir. Mae rhai’n dweud ein bod ni’n neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn ni’n agos at farw, ac eto’n dal yn fyw: wedi’n chwipio, mae’n wir, ond heb ein lladd. Yn dal i orfoleddu er gwaetha’r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni’n dlawd, ac eto’n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
2 Corinthiaid 6:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir; rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd; dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.
2 Corinthiaid 6:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir; Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd; Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.