Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 6

6
1Dŷn ni’n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i’w haelioni e. 2Mae Duw’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
“Bydda i’n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn,
Ac yn dy helpu di pan ddaw’r dydd i mi achub.” # Eseia 49:8
Edrychwch! Mae’r amser iawn wedi dod! Mae’r dydd i Dduw achub yma!
Amserau anodd Paul
3Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni. 4Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn ni’n dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethau’n galed ac yn edrych yn anobeithiol. 5Dŷn ni wedi cael ein curo, ein carcharu, ein bygwth gan y mob, wedi gweithio nes ein bod wedi ymlâdd yn llwyr, ac wedi colli cwsg a gorfod mynd heb fwyd. 6Dangos hynny hefyd drwy’n bywydau glân, ein dealltwriaeth o’r gwirionedd, ein hamynedd gyda phobl, a’n caredigrwydd at bobl; a thrwy nerth yr Ysbryd Glân ar waith ynon ni, a’n cariad dwfn atoch chi. 7A hefyd drwy gyhoeddi’r gwir yn ffyddlon, a gwneud hynny gyda’r nerth mae Duw’n ei roi – gydag arfau cyfiawnder, i ymosod ac amddiffyn. 8Dŷn ni weithiau’n cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn ni’n cael ein galw’n dwyllwyr er ein bod ni’n dweud y gwir. 9Mae rhai’n dweud ein bod ni’n neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn ni’n agos at farw, ac eto’n dal yn fyw: wedi’n chwipio, mae’n wir, ond heb ein lladd. 10Yn dal i orfoleddu er gwaetha’r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni’n dlawd, ac eto’n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
11Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi’n hunain yn llwyr i chi! 12Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy’n dal yn ôl. 13Dewch yn eich blaen – dw i’n siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.
Dych chi’n wahanol i bobl sydd ddim yn credu
14Dych chi’n wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni’n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch? 15Ydy’r Meseia a’r diafol#6:15 diafol: Groeg, Beliar – ffurf arall o’r enw Hebraeg Belial sy’n golygu ‘drwg’ neu ‘diwerth’. Roedd llawer o ysgrifau Iddewig yn defnyddio’r enw yma am y diafol. yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy’n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin? 16Ydy’n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda’n gilydd yn deml i’r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud:
“Bydda i’n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw;
fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.” # Lefiticus 26:12 (cf. Jeremeia 32:39 ac Eseciel 37:27)
17Felly mae’r Arglwydd yn dweud,
“Dewch allan o’u canol nhw
a bod yn wahanol.”
“Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan,
a chewch eich derbyn gen i.” # Eseia 52:11 a chyfeiriad at Eseciel 20:41
18 “Bydda i’n Dad i chi,
a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” # cyfeiriad at 2 Samuel 7:14 ac Eseia 43:6
meddai’r Arglwydd Hollalluog.

Dewis Presennol:

2 Corinthiaid 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd