2 Corinthiaid 6:16-18
2 Corinthiaid 6:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy’n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda’n gilydd yn deml i’r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i’n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.” Felly mae’r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o’u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.” “Bydda i’n Dad i chi, a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” meddai’r Arglwydd Hollalluog.
2 Corinthiaid 6:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau. Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi, a byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi'n feibion a merched i mi, medd yr Arglwydd, yr Hollalluog.”
2 Corinthiaid 6:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.