2 Corinthiaid 6:11-13
2 Corinthiaid 6:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch. Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain. I dalu'n ôl—yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant—agorwch chwithau eich calonnau yn llydan.
Rhanna
Darllen 2 Corinthiaid 62 Corinthiaid 6:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi’n hunain yn llwyr i chi! Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy’n dal yn ôl. Dewch yn eich blaen – dw i’n siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.
Rhanna
Darllen 2 Corinthiaid 62 Corinthiaid 6:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd. Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. Ond am yr un tâl, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd.
Rhanna
Darllen 2 Corinthiaid 6