2 Corinthiaid 4:7-9
2 Corinthiaid 4:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r trysor mae Duw wedi’i roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd – ffaith sy’n dangos mai o Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni. Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu’n llwyr. Dŷn ni’n ansicr weithiau, ond heb anobeithio; yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi’n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro!
2 Corinthiaid 4:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond y mae'r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni. Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith, ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio.
2 Corinthiaid 4:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni. Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith; Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha