Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 4

4
1Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; 2Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. 3Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig: 4Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. 5Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. 6Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist. 7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni. 8Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith; 9Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha; 10Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni. 11Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. 12Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. 13A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru; 14Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi. 15Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw. 16Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd. 17Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni; 18Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.

Dewis Presennol:

2 Corinthiaid 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd